Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Ben Bradley wedi ymddiheuro am gysylltu arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ag ysbïwyr y Rhyfel Oer.

Fe fydd yn gwneud cyfraniad ariannol “sylweddol” i elusennau, meddai’r Blaid Lafur, a hynny am drydar ei sylwadau. Mae hefyd wedi addo na fydd yn gwneud y fath sylwadau eto.

Dywed yn ei ymddiheuriad: “Ar 19 Chwefror 2018 fe wnes i ddatganiad hynod ddifenwol ar fy nghyfrif Twitter, ‘Ben Bradley MP (@bbradleymp), am Jeremy Corbyn yn honni ei fod e wedi gwerthu cyfrinachau Prydain i ysbïwyr Comiwnyddol.

“Ers hynny, dw i wedi dileu’r trydariad difenwol. Dw i wedi cytuno i dalu swm sylweddol o arian na fydd yn cael ei ddatgelu, i elusen o’i ddewis e, a bydda i hefyd yn talu ei gostau cyfreithiol.

 

“Dw i’n derbyn bod fy natganiad yn gwbl anwir ac yn anghywir. Dw i’n derbyn i fi achosi niwed i Jeremy Corbyn ac wedi ei ypsetio yn sgil fy honiadau anwir ac anghywir, gan awgrymu ei fod e wedi bradychu ei wlad drwy gydweithio ag ysbïwyr o dramor.

“Mae’n flin iawn gen i am gyhoeddi’r datganiad anwir ac anghywir hwn a dw i ddim yn oedi cyn cynnig fy ymddiheuriad di-ben-draw i Jeremy Corbyn am y niwed dw i wedi ei achosi iddo.”