Mae dau o bobol wedi’u cyhuddo o achosi marwolaethau dau fachgen bach drwy yrru’n beryglus yn Coventry, ac wedi’u cadw yn y ddalfa.

Bu farw Corey Casper-Platt, chwech oed, a’i frawd Casper, dwy oed, yn dilyn y gwrthdrawiad brynhawn dydd Iau.

Roedden nhw gyda’u mam pan gawson nhw eu taro. Cawson nhw eu cludo i’r ysbyty, ond bu farw Casper yn ddiweddarach. Bu farw Corey yn dilyn llawdriniaeth.

Aeth Robert Brown, 53, a Gwendoline Harrison, 41, gerbron ynadon heddiw.

Mae Robert Brown wedi’i gyhuddo o ddau achos o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, o yrru tra ei fod wedi’i wahardd, o yrru heb yswiriant ac o yrru yn groes i amodau ei drwydded.

Mae Gwendoline Harrison wedi’i chyhuddo o ddau achos o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac un cyhuddiad o ymosod.

Byddan nhw’n ymddangos yn Llys y Goron Warwick ar Fawrth 22 trwy gyswllt fideo.