Nod y BBC yw bod y lle gorau i fenywod weithio yn dilyn canfyddiadau dadleuol dros fwlch cyflogau’r gorfforaeth.
Bydd Donalda MacKinnon, cyfarwyddwr BBC Scotland, yn arwain ymchwilio i ba rwystrau sy’n dal menywod yn ôl yn y sefydliad.
Mae’r adolygiad yn rhan o ymgais y darlledwr i gael merched yn hanner y swyddi uwch reoli a swyddi ar yr awyr erbyn 2020.
Bydd Donalda MacKinnon yn ystyried opsiynau gweithio rhan amser ac oriau hyblyg, a cheisio gweld sut mae gwneud hi’n haws i fenywod ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnodau mamolaeth.
Bydd staff yn cael eu hannog i gyfrannu syniadau i’r adolygiad ac mae disgwyl i awgrymiadau fynd ger bron cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, erbyn diwedd mis Mehefin.
Y llynedd, datgelodd y Gorfforaeth mai dynion yw dau o bob tri o’u gweithwyr sydd ar y cyflogau uchaf.
“Uchelgais beiddgar”
“Mae gennym ni uchelgais beiddgar – rydym ni eisiau i’r BBC fod y lle gorau i fenywod weithio,” meddai Donalda MacKinnon.
“Mae gweithio hyblyg, rhannu swyddi a rhaglenni datblygu eisoes yn ei gwneud yn haws i rai, ond o ddod â’r syniadau newydd gorau ynghyd, o du fewn a thu allan y BBC, gallwn ni wneud mwy hyd yn oed ac anelu i bawb gyrraedd eu potensial.”