Mae dynes wedi marw yn dilyn tân ar fwrdd bad ar gamlas yng nghanolbarth Lloegr.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2 y bore yn dilyn adroddiadau am dân ar gwch oedd wedi’i hangori ar gamlas y Trent a’r Ferswy yn Stone, Swydd Stafford.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi cadarnhau iddyn nhw ddod o hyd i’r ddynes wedi cael trawiad ar y galon, wedi iddi gael ei hachub o’r bad gan y gwasanaeth tân.
Er holl ymdrechion y gwasnaethau brys, bu farw’r wraig cyn cael ei chludo i’r ysbyty.
Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn ceisio dod o hyd i achos y tân.