Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddau ddyn ifanc gael eu trywanu i farwolaeth yn Camden yng ngogledd-orllewin Llundain.

Cafwyd hyd i’r dyn cyntaf ar Ffordd Bartholomew am oddeutu 8.30yh neithiwr. Roedd wedi marw yn y fan a’r lle.

Cafodd yr heddlu eu galw’n ddiweddarach i ffrae ar Ffordd Malden am oddeutu 10.15yh, lle cawson nhw hyd i ddyn tuag 20 oed a chanddo anafiadau difrifol. Fe fu farw yntau.

Dydi’r heddlu ddim yn gwybod ar hyn o bryd a oes cyswllt rhwng y ddau ddigwyddiad, ac maen nhw’n dal ar safle’r llofruddiaeth ar Ffordd Bartholomew, lle maen nhw wedi codi pabell fforensig.