Mae’r cwmni bwcis, William Hill, yn wynebu dirwy o dros £6m, ar ôl i’r Comisiwn Gamblo ddarganfod bod y cwmni wedi bod yn esgeulus wrth geisio atal twyll a thrin arian ‘drwg’.

Yn ôl y Comisiwn, doedd y cwmni ddim wedi gwneud digon i sicrhau bod ganddyn nhw wybodaeth drylwyr ynglŷn â chyllid ariannol rhai o’u cwsmeriaid – a hynny dros gyfnod o ddwy flynedd rhwng Tachwedd 2014 ac Awst 2016.

Roedd o leiaf 10 cwsmer wedi defnyddio arian o weithredoedd troseddol – gyda William Hill yn gwneud elw o tua £1.2m o ganlyniad.

Mae maint y ddirwy hon i William Hill yn adlewyrchu “difrifoldeb” y sefyllfa a’r “cyfrifoldeb” sydd ar fusnesau gamblo i sicrhau bod twyll yn cael ei gadw allan o’r diwydiant, meddai Prif Weithredwr y Comisiwn Gamblo, Neil McArthur.