Mae llywodraethau Iwerddon a’r Deyrnas Unedig yn parhau’n gadarn o blaid y cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac eisiau gweld datganoli’n ailddechrau yno.

Fe siaradodd prif weinidogion y ddwy wlad gyda’i gilydd ar ôl ffrae bellach rhwng dwy brif blaid Ulster.

Tra oedd Arlene Foster, arweinydd plaid Unolaethol y DUP, yn galw ar i’r Llywodraeth yn Llundain ddechrau creu polisi a phennu cyllidebau yn y Gogledd, roedd Mary Lou McDonald, llywydd newydd plaid genedlaetholgar Sinn Fein, yn gwrthod hynny’n llwyr.

“Dyw llywodraethu uniongyrchol ddim yn dderbyniol,” meddai. “Fydd llywodraethu uniongyrchol ddim yn cael ei ystyried.”

Y ddau Brif Weinidog yn bendant

Yn ei sgwrs gyda Leo Varadkar, y Taoiseach yn Iwerddon, roedd Prif Weinidog Prydian, Theresa May, wedi dweud ei bod yn dal i gredu bod potensial am gytundeb rhwng y ddwy blaid – rhaid iddyn nhw gytuno i gydweithio er mwyn ailsefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont.

Ac roedd Leo Varadkar yr un mor gadarn tros gael llywodraeth ddatganoledig yn y Gogledd.

“A hithau’n un o gyd-warantwyr y cytundeb [Cytundeb Heddwch Gwener y Groglith], bydd y Llywodraeth yn parhau i ymwneud â’r pleidiau yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth Prydain er mwyn cefnogi creu llywodraeth newydd gan y pleidiau, a hynny ar frys,” meddai llefarydd ar ei ran.

Y cefndir

Mae mwy na blwyddyn bellach ers i’r Llywodraeth ym Melffast ddod i ben, tros anghydfod rhwng y ddwy brif blaid tros honiadau o lygredd yn erbyn arweinydd y DUP a thros yr iaith Wyddeleg.

Mae Sinn Fein yn honni bod y DUP wedi cytuno i fargen ddrafft ond fe chwalodd hynny unwaith eto tros y syniad o Ddeddf Iaith Wyddeleg.

Fe allai rheolaeth o Lundain ffafrio’r DUP, gan mai ei haelodau hi sy’n cynnal Llywodraeth Ceidwadol Theresa May.