Yn Llys y Goron Lerpwl, mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi cael ei garcharu am 30 mlynedd am gam-drin 12 o fechgyn ifanc rhwng 1979 a 1991.

Cafwyd Barry Bennell, 64, yn euog o 50 o droseddau rhyw yn erbyn plant yn Llys y Goron Lerpwl wythnos ddiwethaf.

Clywodd y llys bod y pedoffeil wedi ymosod ar 12 o bêl-droedwyr ifanc yr oedd yn eu hyfforddi rhwng 1979 a 1991.

Yn dilyn y dyfarniad wythnos ddiwethaf, fe ddatgelwyd y gallai cyn-hyfforddwr  Crewe Alexandra a Manchester City fod wedi ymosod ar fwy na 100 o ddioddefwyr i gyd wrth i 86 o achwynwyr fynd at yr heddlu i ddweud bod Barry Bennell hefyd wedi ymosod arnyn nhw.

Mae Barry Bennell eisoes wedi treulio cyfnod yn y carchar ers 1995 am droseddau tebyg yn ymwneud a 16 o ddioddefwyr eraill.

“Maleisus”

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Clement Goldstone QC, bod ymddygiad Barry Bennell yn “faleisus” a’i fod wedi “dwyn plentyndod a diniweidrwydd” y bechgyn.

Ychwanegodd bod ei ddioddefwyr yn dal i ddioddef problemau “mwy na 30 i 35 o flynyddoedd ers i chi chwalu eu bywydau.”

Cyn iddo gael ei ddedfrydu roedd rhai o’i ddioddefwyr wedi darllen datganiadau i’r llys.

Dywedodd y barnwr y bydd Barry Bennell yn treulio hanner ei ddedfryd dan glo a’r gweddill ar drwydded, gyda chyfnod ychwanegol o flwyddyn ar drwydded.