Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn cyhoeddi adolygiad o ffioedd a chyllid myfyrwyr yn Lloegr yn ddiweddarach ddydd Llun (Chwefror 19).

Bydd hi’n cydnabod bod y sustem yn Lloegr heb arwain at farchnad “gystadleuol” ac yn nodi: “bellach mae gennym ni un o’r sustemau drytaf yn y byd”.

Cadeirydd a phanel annibynnol fydd yn gyfrifol am yr adolygiad, ac mae disgwyl y bydd yn mynd i’r afael â phob agwedd o gefnogi myfyrwyr yn ariannol.

Daw’r adolygiad yn sgil pryderon am lefel y ddyled a’r cyfraddau llog – 6.1% yw’r gyfradd ar hyn o bryd – mae myfyrwyr yn eu hwynebu.

Cymru a Lloegr

Yn ystod 2017/18 mae modd i brifysgolion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon godi tâl o hyd at £9,250 am ffioedd dysgu – mae hynny’n gynnydd o £250 o gymharu â 2016/17.

Ond, yng Nghymru mae ffioedd dysgu yn is ac nid oes modd i brifysgolion godi tâl uwch na £9,000 y flwyddyn am ffioedd dysgu.