Mae arweinydd dros dro Ukip, Gerard Batten wedi amddiffyn ei sylwadau am Islam ar ôl disgrifio’r crefydd fel “cwlt marwolaeth” a honni bod y rhan fwyaf o Fwslemiaid eisiau bod yn ferthyron.

Mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd wrth y llyw ar ôl i Henry Bolton gael ei symud o’i swydd yn dilyn pryderon am sylwadau hiliol ei gyn-gariad Jo Marney am Meghan Markle, dyweddi’r Tywysog Harry.

Dywedodd Gerard Batten y dylai mewnfudwyr Mwslemaidd wfftio “ideolegau’r oesoedd tywyll” sy’n deillio o ddehongli’r Koran mewn modd llythrennol.

Fe ddaeth ei sylwadau am “gwlt marwolaeth” Islam mewn blog yn fuan ar ôl yr ymosodiad brawychol y tu allan i San Steffan y llynedd.

 

Mewn cyfweliad â Sky News, awgrymodd y byddai’n barod i ystyried derbyn yr arweinyddiaeth yn barhaol, ac mae’n mynnu bod gan y blaid ran i’w chwarae wrth sicrhau bod Brexit yn mynd rhagddo.

Amddiffyn sylwadau

Wrth amddiffyn ei sylwadau, dywedodd: “Mae’r hyn wnes i ei ysgrifennu am Islam yn ffeithiol ac yn hanesyddol gywir.

“Fe fydd unrhyw un sydd am edrych ar hanes Islam dros y 1,400 o flynyddoedd diwethaf yn gweld bod hynny’n gywir.

“Mae’n gogoneddu marwolaeth. Maen nhw’n credu mewn lledaenu eu crefydd drwy ladd pobol eraill a gwneud merthyron ohonyn nhw eu hunain, a mynd ar ôl eu 72 o wyryfon.

“Nid pob un ohonyn nhw – dydy hynny ddim yn dweud bod pob un yn credu hynny neu’n gwneud hynny – dw i’n dweud bod lleiafrif sylweddol yn credu hynny ac mai nhw yw’r broblem.

“Ond y drafferth yw eu bod nhw’n gyfiawn yn y credoau hynny drwy ddehongli’n llythrennol eu testunau sanctaidd bondigrybwyll.”

‘Gwrthod eithafiaeth’

Mae Gerard Batten wedi galw ar i Fwslemiaid lofnodi siarter sy’n wfftio eithafiaeth, ac wedi awgrymu na ddylai rhagor o fosgiau gael eu hadeiladu yng ngwledydd Prydain tan bod lle i grefyddau eraill ym Mecca.

Galwodd am roi terfyn ar “ariannu” eithafiaeth dramor.

Pe bai’n mynd am arweinyddiaeth y blaid yn barhaol, fe allai wynebu her gan Suzanne Evans, cyn-ddirprwy gadeirydd y blaid. Ond mae hithau’n galw ar i gyn-arweinydd y blaid, Nigel Farage ddychwelyd i “lanhau’r llanast”.