Mae teulu’r diweddar Jo Cox wedi dweud mewn datganiad eu bod nhw’n cefnogi ei gŵr Brendan, sy’n wynebu honiadau am ei ymddygiad rhywiol yn y gorffennol.

Mae Brendan Cox, sy’n gweithio i elusennau More in Common a Sefydliad Jo Cox, wedi penderfynu camu o’r neilltu yn sgil yr honiadau.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd chwaer Jo Cox, Kim Leadbeater fod y teulu wedi cael “diwrnod anodd arall”.

“Fe fu’r ugain mis diwethaf yn gymysgedd llwyr o emosiynau ry’n ni’n dal i ymdrin â nhw’n feunyddiol.

“Fy mlaenoriaeth erioedd fu edrych ar ôl plant Jo a Brendan a chefnogi fy rhieni, sydd eisoes wedi bod trwy gryn dipyn, a bydda i’n parhau i wneud hynny.

“Fel teulu, byddwn ni’n cefnogi Brendan wrth iddo ymdrechu i wneud y peth cywir drwy gyfadde’r camgymeriadau mae e wedi’u gwneud yn y gorffennol, ac rydym yn ei barchu am wneud hynny.

“Ry’n ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. Mae Brendan yn dad gwych a does gen i ddim amheuaeth am yr hapusrwydd a roddodd i Jo.”

Ychwanegodd y byddai’n parhau â’i gwaith gyda More in Common a Sefydliad Jo Cox, gan ddiolch “i bawb am eich cefnogaeth”.