Mae mwy na 190 o sêr adloniant benywaidd wedi llofnodi llythyr agored yn galw am roi terfyn ar aflonyddu rhywiol.

Daw’r llythyr ar drothwy gwobrau ffilm BAFTA heno.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Emma Thompson, Naomie Harris a Jodie Whittaker, ac maen nhw’n cefnogi 160 o bobol eraill, gan gynnwys ymgyrchwyr, academyddion a darparwyr gwasanaethau sy’n bwriadu sefydlu cronfa i greu rhwydwaith o gefnogaeth a phrosiectau ledled gwledydd Prydain.

Fe fydd pobol sy’n mynd i’r seremoni heno’n gwisgo du er mwyn cefnogi ymgyrch Time’s Up yn sgil yr honiadau yn erbyn y cyfarwyddwr ffilm Harvey Weinstein.

Y llythyr

Dywed y llythyr: “Mae’r mudiad hwn yn fwy na dim ond newid yn ein diwydiant ni’n unig.

“Mae’r mudiad hwn yn rhyng-adrannol, gyda sgyrsiau ar draws hil, dosbarth, cymuned, gallu ac amgylchfyd gwaith, i siarad am anghydbwysedd grym.”

Mae’r llythyr yn tynnu sylw at y bwlch cyflog, ansicrwydd economaidd i’r diwydiant a gwaith llawrydd, yn ogystal ag ymchwil sy’n dangos bod mwy na hanner menywod gwledydd Prydain wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gweithle.

Dywed y llythyr fod aflonyddu rhywiol yn “jôc anghysurus” nad oes modd ei hosgoi, a bod angen i sêr y diwydiant “ddefnyddio ein grym fel cyfathrebwyr a chysylltwyr i symud y ffordd y mae’r gymdeithas yn ein gweld ni ac yn ein trin ni”.

Ymhlith y gwesteion yn y seremoni heno fydd ymgyrchwyr o brosiectau Everyday Sexism, UK Black Pride a dwy o ‘Ferched Dagenham’ sydd wedi bod yn destun ffilm yn sgil eu protest mewn ffatri geir yn 1968 yn erbyn cyflogau annheg i fenywod.