Mae Brendan Cox, gweddw’r Aelod Seneddol Jo Cox, wedi gadael ei rôl gyda dwy elusen yn dilyn honiadau ei fod e wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes yn y gorffennol.

Mae’n derbyn iddo aflonyddu’r ddwy yn rhywiol, ond mae’n gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le tra ei fod yn briod â’r diweddar Aelod Seneddol dros Batley and Spen a gafodd ei llofruddio yn 2016.

Roedd yn gweithio i elusennau More in Common a Sefydliad Jo Cox.

Mae’r Mail on Sunday wedi cyhoeddi honiadau ei fod e wedi ymddwyn yn amhriodol tra ei fod e a dynes yn gweithio i Achub y Plant, a’i fod e wedi’i orfodi ei hun arni yn ystod taith i Brifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau yn 2015.

Fe ddywedodd fod yr honiadau wedi cael eu “gorddweud yn enfawr” pan gafodd ei gyfweld gan y papur, ond ei fod yn euog o “groesi’r llinell”.

Ymddiheuriad

Yn ôl y Mail on Sunday, roedd Brendan Cox wedi aflonyddu cydweithwraig yn Llundain pan oedd e’n feddw, ei dal hi wrth ei gwddf a gwneud sylw amhriodol. Fe adawodd ei rôl yn fuan wedyn.

Dywedodd Brendan Cox mewn datganiad ei fod yn dymuno “ymddiheuro’n fawr ac yn ddi-ben-draw am fy ymddygiad yn y gorffennol ac am y loes a’r sarhad dw i wedi’u hachosi.

“Yn dilyn llofruddiaeth Jo, fe wnes i addo y byddwn i’n ymroi yn fy mywyd i ddau beth, yn gyntaf i garu ac amddiffyn ein plant ac yn ail i frwydro yn erbyn y casineb a laddodd Jo.

“Dros y dyddiau diwethaf, mae honiadau o sawl blwyddyn yn ôl wedi ymddangos unwaith eto, sy’n gwneud canolbwyntio ar y ddwy dasg honno gymaint yn fwy anodd.

“Am y rheswm hwnnw, tra fy mod i i ffwrdd dros hanner tymor, fe benderfynais i gamu o’r neilltu o fy rolau cyhoeddus presennol am y tro.”

Dywedodd nad oedd ei ymddygiad fyth yn “faleisus” ond ei fod e wedi ymddwyn yn “amhriodol”, a’i fod yn “cymryd cyfrifoldeb llawn” am ei ymddygiad.

Priododd Brendan a Jo Cox yn 2009, ac mae ganddyn nhw ddau o blant.