Fe fydd aelodau UKIP yn cyfarfod heddiw i drafod dyfodol yr arweinydd Henry Bolton.
Fe fyddan nhw’n penderfynu a fyddan nhw’n cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.
Ond hyd yn oed pe bai’n llwyddo i oroesi’r bleidlais, fe fydd ei ddyfodol yn parhau’n ansicr yn dilyn ei berthynas â Jo Marney, sydd wedi gwneud sylwadau hiliol am ddyweddi Tywysog Harry, Meghan Markle mewn negeseuon gyda’i chyn-bartner.
Mae Henry Bolton wedi cymharu’r diddordeb yn ei fywyd preifat â’r sylw a gafodd y Dywysoges Diana.
Mae lle i gredu bod y blaid eisoes wedi trafod olynydd i Henry Bolton, a bod tri o enwau wedi’u hystyried. Ond mae’n mynnu y byddai’n ystyried sefyll am yr arweinyddiaeth unwaith eto yn y dyfodol pe bai’n ei golli yn sgil y cyfarfod heddiw yn Birmingham.
Ymhlith cefnogwyr Henry Bolton mae cyn-arweinydd y blaid, Nigel Farage.