Mae’n bosib y gallai hyd at 100 o ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ddychwelyd i wledydd Prydain i fyw, yn ôl swyddog gwrth-frawychaeth blaenllaw.
Mae’r gwasanaeth sy’n gyfrifol am gasglu gwybodaeth am frawychwyr yn tybio bod tua 300 o unigolion, a deithiodd o wledydd Prydain i frwydro yn Syria ac Irac, yn y Dwyrain Canol o hyd – ond â’u llygaid ar ddychwelyd adref.
Yn ôl y Dirprwy Cynorthwyol y gwasanaeth, Neil Basu, mae’n bosib y gallai tua thraean o’r unigolion yma ddychwelyd, tra bod pasborts y gweddill wedi’u dileu.
“Rydym yn gweithredu ar yr egwyddor nad ydyn ni ddim eisiau’r bobol hyn yn ôl,” meddai Neil Basu.
IS ar-lein
Mae’r swyddog hefyd yn rhybuddio bod ideoleg IS bellach “ar led ar y rhyngrwyd”, ac er eu bod wedi eu maeddu ar faes y gad, fod y grŵp erbyn hyn yn “rhwydwaith sy’n bodoli ar-lein”.
Mae’n galw am gydweithio pellach rhwng y Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol gan nodi: “mae ganddyn nhw’r adnoddau, ac mae’n rhaid iddyn nhw helpu.”