Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Wyddeleg yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu Deddf Iaith a swydd Comisiynydd Iaith ar gyfer Gogledd Iwerddon – os bydd datganoli’n methu.

Mae’r Gymdeithas – Conradh na Gaeilge – wedi mynegi siom am fethiant y trafodaethau rhwng plaid genedlaetholgar Sinn Fein ac Unoliaethwyr y DUP i geisio ailsefydlu’r Cynulliad yn Stormont.

Ac maen nhw wedi beirniadu’r DUP am wrthod deddf iaith sydd, medden nhw, wedi cael ei haddo ers mwy na deng mlynedd – y ddeddf oedd rheswm honedig yr Unoliaethwyr tros wrthod cytundeb newydd.

‘Dim ildio’

Roedd cynrychiolwyr Conradh na Gaeilge wedi cwrdd ag Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Karen Bradley, yr wythnos diwetha’ ac wedi dweud wrthi ei fod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddf, os na fyddai’r Cynulliad yn ailddechrau.

“Mae Conradh na Gailge yn ceisio cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol eto yn ystod y dyddiau nesa’, ynghyd â’r Taoiseach [Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon] i ddadlau’r achos eto,” meddai Niall Comer, Llywydd y gymdeithas.

“Mae’r mudiad Gwyddeleg yn benderfynol o sicrhau Deddf a fydd  o fudd i bawb yn y gymdeithas a fydd yr ymdrechion hyn ddim yn peidio nes y cawn ni gyfartaledd.”

Maen nhw’n dweud bod llywodraethau Iwerddon a’r Deyrnas Unedig wedi addo ddeddf iaith mor bell yn ôl â 2006.

Y cefndir

Yn ôl Sinn Fein, roedd deddf iaith Wyddeleg yn rhan o gytundeb drafft oedd wedi ei dderbyn gan arweinwyr y DUP, cyn i’r rheiny newid eu meddwl.

Yn ôl arweinydd y DUP, Arlene Foster, fydd hi fyth yn gallu cytuno ar ddeddf ‘ar ei phen ei hun’ fel yr un y mae Conradh na Gaeilge yn galw amdani – dydyn nhw ddim eisiau i’r iaith gael statws arbennig.

Dadl Sinn Fein yw fod y cytundeb drafft yn cynnwys deddf ar gyfer Scots hefyd a deddf gyffredinol yn sicrhau tegwch o ran ieithoedd ac amrywiaeth.