Fe fuodd yna gwymp mawr yn nifer yr oedolion ifanc sy’n gallu prynu eu tai eu hunain – yn enwedig ymhlith y rhai sydd ar gyflogau canolig.

Yng nghanol yr 1990au, roedd dwy ran o dair o gyplau ifanc o’r fath yn gallu prynu tŷ; erbyn hyn, mae’r ffigwr i lawr i un o bob pedwar.

Cynnydd ym mhrisiau tai sy’n gyfrifol am y cwymp yn ôl awduron yr adroddiad, y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) – maen nhw’n dweud bod prisiau wedi codi saith gwaith yn gynt na chyflogau pobol ifanc ers yr 1990au.

Erbyn hyn, medden nhw, mae prisiau tai ar gyfartaledd bedair gwaith yn fwy nag incwm 90% o gyplau rhwng 25 a 34 oed.

Mae’r ffigurau ar gyfer gwledydd Prydain i gyd a’r diffiniad o ‘incwm canolig’ yw unigolion neu gyplau sy’n derbyn cyfanswm incwm rhwng £22,200 a £30,600 ar ôl treth.