Yr enillydd Gwobr Nobel, yr Archesgob Desmond Tutu, yw’r diweddara’ i ddweud ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn llysgennad i elusen Oxfam.

Fe ddywedodd ei swyddfa yn Ne Affrica fod yr Archesgob 86 oed yn “siomedig iawn gyda honiadau o anfoesoldeb ac, efallai, o dor-cyfraith”.

Roedd yr Archesgob yn un o lysgenhadon rhyngwladol yr elusen sydd wedi cael ei beirniadu’n hallt am fod aelodau o’i staff wedi bod yn defnyddio puteiniaid pan oedden nhw’n gweithio yn Haiti ar ôl y daeargryn yno.

Heddiw, fe ddaeth hi’n amlwg fod un o’r gweithwyr hynny wedi cael ei gyflogi’n ddiweddarach gan Oxfam wrth ymateb i argyfwng mewn gwlad arall.

Mae’r actores Minnie Driver a cherddor o Senegal eisoes wedi ymddiswyddo o fod yn llysgenhadon.