Mae plaid genedlaetholgar Sinn Fein wedi addo rhoi ymateb llawn i fethiant y trafodaethau rhyngddyn nhw a phrif blaid yr Unolaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Mae honno – y DUP – bellach yn galw ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau gwneud penderfyniadau polisi a gosod cyllidebau ar ôl i Sinn Fein a nhwthau fethu â chytuno ag adfer datganoli a Senedd Stormont.

Agweddau at yr iaith Wyddeleg oedd un o’r prif rwystrau, gyda Sinn Fein eisiau deddf iaith benodol ar ei chyfer a’r DUP yn gwrthod hynny’n llwyr.

Y cefndir

Daeth Llywodraeth clymblaid y DUP a Sinn Fein i ben ym mis Ionawr y llynedd yn dilyn ffrae tros yr iaith a honiadau o lygredd yn erbyn arweinydd y DUP, Arlene Foster, y Prif Weinidog ar y pryd.

Y gwasanaeth sifil sydd wedi bod yn gyfrifol am gynnal gwasanaethau’ wlad ers mwy na blwyddyn ac, os na fydd bargen yn fuan, mae’n bosib bydd yn rhaid llywodraethu’n uniongyrchol o Lundain..

Mae arweinydd Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon, Michelle O’Neill, wedi beio’r DUP am fethiant y trafodaethau, gan ddweud bod ei phlaid hi wedi cyfaddawdu gymaint ag y gallen nhw.