Mae bwyta bwydydd sydd wedi eu prosesu’n drwm – diodydd pefriog, cacennau, prydau parod ac ati – yn medru cynyddu’r risg o ganser, yn ôl astudiaeth newydd.

Mewn nifer o wledydd datblygedig mae hanner diet y boblogaeth yn fwyd sydd wedi’i brosesu, a bellach mae ymchwilwyr yn credu bod hyn yn cyfrannu at dwf mewn lefelau canser.

Yn ôl awduron yr astudiaeth – ymchwilwyr o Ffrainc a Brasil – mae bwyta 10% yn fwy o fwyd proses yn medru arwain at gynnydd o 12% yn y risg o gael canser.

Bwyd ffres

Ochr arall y geiniog yw fod yr ymchwilwyr yn nodi bod bwyta bwydydd ffres neu sydd wedi’u prosesu llai – gan gynnwys ffrwythau, llysiau, pasta a chig ffres – yn medru lleihau risg canser.

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn pwysleisio mai astudiaeth fras yw hon a bod dim modd dweud â sicrwydd bod yna gysylltiad rhwng bwyd proses a chanser.