Mae dyn o Birmingham wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yng ngharchar ar ôl smyglo ffoaduriaid i wledydd Prydain yn anghyfreithlon – gydag un yn ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw, fe gafodd Mehdi Mahmoodi-Esdanjani ei ddyfarnu’n euog o gynorthwyo o leiaf dwy ddynes i gael mynediad i wledydd Prydain trwy ddefnyddio dogfennau ffug, gydag yntau’n gwneud miliynau o bunnoedd yn sgil hynny.

Fe gafodd y gŵr 39 oed ei ddwyn i’r ddalfa fis Medi y llynedd, ac mewn gwrandawiad diweddarach yn Llys y Goron Caerdydd, fe blediodd yn euog i ddwy achos o gynorthwyo ffoaduriaid yn anghyfreithlon, ac un achos o wyngalchu arian.

Ynghyd â threulio tair blynedd yn y carchar, fe fydd o dan wyliadwriaeth fanwl gan yr awdurdodau yn ystod y pum mlynedd yn dilyn ei ryddhau.