Mae tad i ferch wyth mlwydd oed a gafodd ei thrywanu i farwolaeth, wedi cael ei gadw yn y ddalfa wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Mae William Billingham, 54, wedi’i gyhuddo hefyd o fygwth lladd mam Mylee ar Ionawr 20. Mae wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Walsall heddiw.

Mae’r achos yn ei erbyn wedi’i ohirio nes y bydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Wolverhampton ddydd Iau yr wythnos hon (Chwefror 15).

Fe gafodd Mylee Billingham ei dyfarnu’n farw yn yr ysbyty, wedi iddi gael ei chanfod â briwiau cyllell yng nghartref ei thad am 9.15yh ar Ionawr 20.