Mae meddalwedd sydd yn medru adnabod deunydd brawychol a’i rwystro rhag cael ei uwchlwytho i’r we, yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r dechnoleg yn chwilio am ‘arwyddion cudd’ ac yn medru adnabod propaganda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) – ac, yn ol arbenigwyr, mae’n llwyddo 94% o’r amser.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyfrannu £600,000 o goffrau cyhoeddus, tuag at ddatblygu’r feddalwedd.

 hithau’n ymweld â Silicon Valley yn San Francisco, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, wedi croesawu’r dechnoleg.

Deunydd “ffiaidd”

“Gobeithiaf bydd y dechnoleg yma – technoleg sydd wedi derbyn cymorth gan y Swyddfa Gartref – yn galluogi eraill i gyflawni mwy ac yn gyflymach,” meddai Amber Rudd.

“Mae’r Llywodraeth yma yn geffyl blaen ar lefel fyd-eang, o ran sicrhau bod deunydd brawychol ffiaidd yn cael ei waredu.”