Mae Dirprwy Brif Weithredwr Oxfam wedi ymddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol gan weithwyr dyngarol yr elusen.

Dywedodd Penny Lawrence ei bod hi’n teimlo “cywilydd” a’i bod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr hyn ddigwyddodd o dan ei goruchwyliaeth.

Ychwanegodd ei bod yn ymddiheuro am y “niwed a’r loes” a achoswyd i gefnogwyr yr elusen.

Mae Oxfam wedi wynebu beirniadaeth lem am y modd roedd wedi delio gyda’r helynt, sy’n cynnwys honiadau bod gweithwyr dyngarol wedi defnyddio puteiniaid yn Haiti yn 2011.

Mae swyddogion Oxfam wedi bod yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Penny Mordaunt, heddiw ar ôl iddi rybuddio bod y “sgandal” wedi rhoi’r berthynas gyda’r Llywodraeth mewn perygl.

Mae’r elusen yn derbyn £32 miliwn gan y Llywodraeth.