Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig a Taoiseach Iwerddon yn teithio i Ogledd Iwerddon heddiw (Chwefror 12) gan obeithio dod i gytundeb tros sefydlu llywodraeth yno.

Bydd yr arweinwyr yn cwrdd â phrif bleidiau Stormont wrth iddyn nhw barhau â’u trafodaethau tros ddod ag anghydfod 13 mis o hyd, i ben.

Mae disgwyl i Theresa May ddweud wrth y pleidiau y bydd ei Llywodraeth yn dychwelyd grym cyn gynted â phosib, wedi iddyn nhw ddod i gytundeb.

Mi wnaeth y Taoiseach, Leo Varadkar, ganslo cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn Nulyn heddiw er mwyn teithio i Stormont – arwydd, o bosib, fod y pleidiau’n agosáu at daro bargen.

Deddf Iaith

Mae pleidiau Gogledd Iwerddon wedi bod wrthi’n ceisio ailffurfio llywodraeth ers i glymblaid y DUP/Sinn Fein fethu ym mis Ionawr 2017.

Mater allweddol sydd wedi rhwystro’r ymdrechion hyd yma, yw’r anghydfod tros Ddeddf Iaith Wyddeleg. Mae’r DUP yn mynnu na fyddan nhw’n ei chefnogi os na fydd Sgoteg Wlster yn cael ei diogelu hefyd.

Ond, bellach mae’n ymddangos bod y pleidiau yn agosáu at gyfaddawd, gydag Arweinydd Sinn Fein yn Stormont, Michelle O’Neill, yn dweud ei bod yn disgwyl cytundeb erbyn diwedd yr wythnos hon.