Mae mwy na 100 o deithiau wedi’u canslo ym Maes Awyr Dinas Llundain ar ôl i fom sydd heb ei ffrwydro o’r Ail Ryfel Byd gael ei ddarganfod.

Dywedodd y prif weithredwr Robert Sinclair bod yr holl hediadau i mewn ac allan o’r maes awyr yn nwyrain Llundain wedi cael eu canslo ar ôl i’r ddyfais gael ei darganfod yn Noc Siôr V yn ardal y Docklands  ddydd Sul.

Mae’r  Heddlu Metropolitan wedi cau’r safle o gwmpas y bom fel bod modd delio gyda’r ddyfais yn ddiogel.

Cafodd pobl sy’n byw gerllaw’r safle eu symud o’u cartrefi nos Sul tra bod nifer o ffyrdd ynghau yn Newham.

Mae rhai gwasanaethau trên y Docklands Light Railway hefyd wedi’u canslo dros dro.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i beidio dod i’r maes awyr ac i gysylltu â’r cwmnïau teithio am ragor o fanylion.