Mae arweinydd Ukip, Henry Bolton wedi dweud bod ganddo fe “hoffter mawr” o’i gyn-gariad Jo Marney er eu bod nhw wedi gwahanu yn dilyn helynt am negeseuon hiliol am ddyweddi Tywysog Harry, Meghan Markle.

Cafodd pleidlais o ddiffyg hyder ei chyflwyno yn ei erbyn fis diwethaf yn dilyn y sylwadau.

Yn ôl Henry Bolton, mae eu perthynas ar ben er iddyn nhw ymddangos mewn llun gyda’i gilydd yn ddiweddar.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC fod “hoffter mawr yno o hyd” rhwng y cwpl, ond fod yna “broblem o ran fy mhenderfyniad ynghych yr holl bennod”.

‘Tynnu sylw’ oddi ar Brexit

Ond dywedodd fod yr helynt wedi tynnu sylw oddi ar fater Brexit, wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Yr hyn y dylen ni fod yn ei wneud yw siapio dyfodol annibyniaeth y wlad hon, a dyna beth ddylen ni fod yn canolbwyntio arno, nid a oedd rhywun, ymhell cyn i fi gwrdd â nhw, wedi danfon negeseuon preifat oedd â dim byd i wneud â fi ac nad oedd modd i fi wybod amdanyn nhw.”

Fe wrthododd ddweud, serch hynny, fod y berthynas ar ben unwaith ac am byth, gan ychwanegu fod “y blaid yn canolbwyntio ar uno a hybu ei gwleidyddiaeth”.

Awgrymodd fod y negeseuon dan sylw wedi cael eu “golygu” cyn eu cyhoeddi, ac y bydd “rhagor o dystiolaeth” am hynny dros y dyddiau nesaf.

Ar ôl iddo wrthod camu o’r neilltu, fe ymddiswyddodd nifer o aelodau’r blaid, ac mae’n wynebu pleidlais bellach ar ei ddyfodol fel arweinydd.