Fe wnaeth y llywodraeth wario bron i £1,000 yn danfon llythyr i Frwsel i ddatgan yn swyddogol fod Prydain yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd dau was sifil wedi cludo’r llythyr ar drên Eurostar ar docynnau dosbarth busnes a oedd yn costio £491.50 yr un.

Unig ofynion Erthygl 50 o gytundebau’r Undeb Ewropeaidd yw bod gwlad sy’n bwriadu gadael yr Undeb yn hysbysu Cyngor Ewrop o’i bwriad – a gellid bod wedi gwneud hyn ag e-bost.

Fodd bynnag cyflwynwyd y llythyr i lywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, yn bersonol gan gynrychiolydd llywodraeth Prydain, Syr Tim Barrow, ar 29 Mawrth 2017.