Fe fydd Gerry Adams yn rhoi’r gorau i arwain Sinn Fein heddiw ar ôl bron i 34 mlynedd yn y swydd.

Fe fydd Mary Lou McDonald yn cael ei chadarnhau fel yr arweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yn Nulyn y pnawn yma.

Hi oedd yr unig un i gael ei henwebu i olynu Gerry Adams.

Mae hi wedi cynrychioli canol Dulyn yn senedd Gweriniaeth Iwerddon ers 2011, a bu’n Aelod Seneddol Ewropeaidd cyn hynny – hi oedd ASE Sinn Fein cyntaf y Weriniaeth.

Dywed y bydd ei phlaid o dan ei harweiniad yn ceisio argyhoeddi unoliaethwyr mai Iwerddon unedig yw’r ffordd orau ymlaen i bawb.