Mae disgwyl i’r Canghellor Cysgodol ddweud yn ddiweddarach heddiw bod perchnogaeth gyhoeddus yn “anghenraid economaidd”.

Wrth annerch cynhadledd yn Llundain, bydd John McDonnell yn wfftio’r syniad mai “dewis gwleidyddol” yw hyn.

Bydd yn dweud bod Llafur yn bwriadu gosod gwasanaethau cyhoeddus “yn nwylo’r gweithwyr” ac na fydd modd gwrthdroi’r weithred.

Bydd hefyd yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn “dlawd o ran syniadau”, ac o gynnig diwygiadau economaidd “gwan”.

Gwladoli

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) wedi beirniadu gallai cynigion Llafur i wladoli gan ddweud eu bod yn “parhau i fethu’r pwynt”.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, wedi dweud bod adroddiadau annibynnol yn dangos y byddai cynlluniau Llafur yn costio biliynau i drethdalwyr.