Mae dau ddyn o Brydain, a oedd yn cael eu hamau o fod wedi dienyddio gwystlon yn enw’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), wedi cael eu dal, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y New York Times, cafodd Alexanda Kotey ac El Shafee Elsheikh eu dal gan luoedd Cwrdaidd yn Syria ym mis Ionawr.

Roedd y ddau yn rhan o’r grŵp oedd yn cael eu hadnabod fel “The Beatles” o achos eu hacenion Saesneg.

Aelodau eraill y pedwarawd o Lundain, oedd yn gysylltiedig â chyfres o lofruddiaethau gwystlon, oedd Mohammed Emwazi – oedd yn cael ei adnabod fel Jihadi John – ac Aine Davies.

Mae’n debyg bod Alexanda Kotey, 34, ac El Shafee Elsheikh, 29, wedi’u dal gan Fyddin Ddemocrataidd Syria, sy’n ymladd y rhannau o’r wlad sy’n dal i fod ym meddiant IS.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi dweud nad yw’n gwneud sylw am achosion unigol ac ymchwiliadau sydd ar y gweill.