Mae’r cyhoeddwyr papurau newydd Trinity Mirror, sy’n berchen y Daily Post a’r Western Mail, wedi dod i gytundeb £126.7 miliwn i brynu cwmni cyhoeddi Northern & Shell.

Mae Northern & Shell yn berchen ar bapurau sy’n cynnwys y Daily Express, Sunday Express, Daily Star a Daily Star Sunday a thri chylchgrawn, OK!, New! a Star.

Fe fydd hefyd yn berchen ar gyfran o 50% o’r Irish Daily Star.

Dywedodd prif weithredwr Trinity Mirror, Simon Fox, bod y cytundeb yn “gyfnod cyffrous iawn yn hanes Trinity Mirror.”

Ychwanegodd cadeirydd Northern & Shell, Richard Desmond bod y cytundeb yn “gam naturiol” ac yn creu “platfform mwy a chryfach”.