Mae heddlu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn ymchwilio i farwolaeth myfyrwraig ger clwb nos.

Mewn datganiad mae Heddlu Durham yn cadarnhau bod dyn 20 oed o Brifysgol Durham wedi marw yng nghyffiniau clwb nos Missoula yn y ddinas tua 11.55yh nos Fercher (Chwefror 7).

“Mae amgylchiadau’r farwolaeth yn aneglur ar hyn o bryd,” meddai’r heddlu wedyn.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Ddwyrain Lloegr yn dweud fod y wraig ifanc wedi diodde’ anaf difrifol i’w phen.