Gallai Aelodau Seneddol a’r Arglwyddi gael eu diarddel dan sancsiynau newydd er mwyn taclo bwlio ac aflonyddu, meddai adroddiad newydd.

Gwelodd yr adroddiad dystiolaeth fod bron i un o bob pum gweithiwr yn San Steffan wedi dioddef, neu weld, achos o aflonyddu rhywiol yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd yr arolwg o 1,377 o weithwyr wedi canfod bod dwywaith gymaint o’r achwynwyr yn fenywod.

Fe wnaeth 39% o bobol ddweud eu bod wedi cael eu bwlio dros yr un cyfnod, gan gynnwys 45% o fenywod a 35% o ddynion.

Cod Ymddygiad newydd

Yn ôl adroddiad y grŵp trawsbleidiol, wedi’i gadeirio gan Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, mae angen creu trefn gyfrinachol ar gyfer cwynion, a fyddai’n annibynnol o bleidiau gwleidyddol.

Galwodd hefyd am adolygiad o’r Cod Ymddygiad presennol a chael Cod Ymddygiad newydd ar gyfer San Steffan i gyd.

Dan y drefn newydd, bydd Comisiynydd Safonau San Steffan yn adrodd i’r pwyllgor safonau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi er mwyn iddyn nhw argymell gwahardd Aelod am gyfnod penodol.

Gallai hynny danio etholiad newydd yn etholaeth yr Aelod Seneddol, os bydd yn cael ei wahardd dan y rheolau newydd.