Mae modd taro bargen i adfer Llywodraeth Gogledd Iwerddon o fewn y dyddiau nesaf, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Karen Bradley.

Mae’n dweud ei bod yn ffyddiog y daw pleidiau Sinn Fein a’r Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) i gytundeb yn y dyfodol agos.

“Dydy’r pleidiau ddim wedi taro dêl eto, ond does dim gwadu’r ffaith eu bod wedi ymrwymo i adfer datganoli,” meddai’r Aelod Seneddol.

“Dw i’n credu’n gryf, ond yn derbyn nad yw’n sicr, bod modd i’r pleidiau ddod i gytundeb o fewn y dyddiau nesa’,”

Cefndir

Mae pleidiau Stormont wedi bod wrthi am flwyddyn yn ceisio sefydlu llywodraeth, ar ôl chwalfa’r llywodraeth ar y cyd rhwng plaid genedlaetholgar Sinn Fein a’r DUP unolaethol.

O dan amodau’r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon, mae’n rhaid i’r ddwy brif blaid rannu grym ond fe chwalodd y llywodraeth ar ôl i Sinn Feion gyhuddo’r DUP o ymddwyn yn annheg.

Gweision sifil sydd wedi bod yn gyfrifol am gynnal gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn, ond bellach mae pwysau cynyddol i lunio cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Os na fydd pleidiau Gogledd Iwerddon yn cytuno, mi fydd San Steffan yn cyflwyno mesurau i reoli Stormont yn uniongyrchol.