Mae archfarchnad Tesco yn wynebu achos llys yn ymwneud â chyflogau cyfartal – achos a allai fil iawndal gwerth £4 biliwn.

Er fod yr achos yn cael ei ddwyn gan 100 o ferched, fe allai effeithio ar gymaint â 200,000 o weithwyr, menywod yn bnenna’.

Yn ôl cyfreithwyr, mae gweithwyr canolfannau dosbarthu’r cwmni – sy’n benna’ yn ddynion – yn  derbyn tâl ar gyfartaledd o £11 yr awr, tra bod staff siopau – menywod yn bennaf – yn ennill tua £8 yr awr.

Yr achos mwya’

Hwn fyddai’r achos mwya’ o’i fath erioed yng nglwedydd Prydain er fod  achosion tebyg ar droed  yn erbyn archfarchnadoedd Asda a Sainsbury’s sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy dribiwnlysoedd cyflogaeth.

“Mae Tesco bob tro wedi bod yn le lle gall pobol fwrw ymlaen â’u gyrfaoedd, boed nhw’n fenywod neu’n ddynion, ac o unrhyw gefndir,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Ac rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein cydweithwyr yn cael eu talu’n deg ac yn gyfartal am yr hyn maen nhw’n gwneud.”