Fe fydd albwm pop gan artist o Gymru’n rhoi hwb i’r iaith Gernyweg, yn ôl ymgyrchydd sy’n hawlio bod yr iaith “ar dwf” ac yn rhan o “sîn ifanc eitha’ bywiog”.

“Mae’n ffantastig,” meddai Emma Jenkin am yr albwm sy’n cael ei gyhoeddi ymhen llai na mis gan y gantores Gwenno.

“Mae’n beth prin cael albwm wedi’i gyhoeddi trwy unrhyw un o’r ieithoedd lleiafrifol, felly mae cael un yn y Gernyweg yn wych

“Mae unrhyw un sydd yn tynnu sylw at yr iaith Gernyweg yn ffantastig, ond pan mae’n cael ei wneud o ansawdd uchel mae hyd yn oed yn well.”

‘Ar gynnydd’

Mae “nifer cynyddol” o bobol o bob oedran yn cymdeithasu trwy’r Gernyweg ac yn ei dysgu hi, meddai Emma Jenkin, sy’n gydlynydd Kowethas ân Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg).

“Mae gennych chi ddosbarthiadau’n cael eu cynnal, a grwpiau ‘Yeth ân Werin’ lle mae pobol yn cwrdd i siarad Cernyweg,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae grwpiau plant yn cwrdd yn rheolaidd yn awr. Felly, dw i’n credu bod yna lawer mwy o ddiddordeb yn yr iaith.”

Cân i Gernyw

Yn ogystal â hynny mae “tuedd gynyddol” gan artistiaid lleol, meddai, i gyfansoddi yn yr iaith, gyda Kan rag Kernow – fersiwn Cernyw o Cân i Gymru – bellach yn ddigwyddiad poblogaidd.

Roedd Gwenno, sy’n dod o Gaerdydd ac o dras cymysg Cymreig a Chernyweg, wedi cyflwyno casgliad o ganeuon Cernyweg am y tro cyntaf mewn perfformiad yn Ynys Môn.

Fe fydd yr albwm uniaith Gernyweg, Le Kov (Lle Cof), yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth .