Mae’r heddlu wedi arestio 21 o bobol a oedd mewn cysylltiad â gang a oedd yn smyglo cannoedd o ffoaduriaid i wledydd Prydain ar gefn loriau.

Roedd yr ymgyrch hwn gan yr heddlu yn cynnwys tua 350 o swyddogion, ac yn gydweithrediad rhwng yr awdurdodau yn y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), dyma’r ymgyrch mwyaf y mae wedi bod yn gyfrifol amdani ers i’r corff gael ei sefydlu bum mlynedd yn ôl.

Bu’r heddlu’n arwain cyrch yn ardaloedd Hastings yn Swydd Sussex, Llundain a Teeside, gyda’r NCA yn credu bod gyrwyr lorïau o’r ardal Teeside wedi’u cyflogi i smyglo ffoaduriaid.

Mae lle i gredu bod y gang wedi gofyn am £100,000 yr un wrth bobol a oedd groesi’r sianel o ogledd Ewrop.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y 21 unigolyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyngalchu arian a dod i fewn i wledydd Prydain yn anghyfreithlon.