Bydd penderfyniad Theresa May i adael undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd, yn arwain at greu rhwystrau i fasnach “nad oes modd eu hosgoi”.

Dyna rybudd Prif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn ystod ei ymweliad â Downing Street ddydd Llun (Chwefror 5).

Wrth iddo gwrdd â’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis, galwodd hefyd am fwy o eglurder gan Lywodraeth y  Deyrnas Unedig ynglŷn â’r cam nesaf yn y trafodaethau Brexit.

Mae Downing Street wedi dweud nad ydyn nhw am weld Prydain yn aros yn yr undeb tollau yn dilyn Brexit.