Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gan honni ei fod “yn rhedeg allan o arian ac yn ddiffygiol”.

Mewn neges ar wefan Twitter mae hefyd wedi dweud  bod “miloedd o bobol yn gorymdeithio” yn y Deyrnas Unedig oherwydd pryderon am gyflwr y gwasanaeth.

Mae’n ymddangos ei fod yn cyfeirio at orymdaith ‘Achub y GIG’ gafodd  ei chynnal ger Downing Street dros y penwythnos.

Daw’r feirniadaeth wrth i Donald Trump ymosod ar blaid y Democratiaid am geisio cyflwyno sustem iechyd tebyg i’r un yn y Deyrnas Unedig, yn yr Unol Daleithiau.

Ymateb

Mae Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig, Jeremy Hunt, wedi ymateb trwy ddweud ei fod yn “falch” o’r sustem ym Mhrydain er gwaetha’r “heriau” sy’n ei hwynebu.

Mae Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi beirniadu’r Arlywydd gan ddweud ei fod yn “anghywir” a bod pobol wedi bod yn gorymdeithio i ddangos “cariad” at y GIG.