Mae dyn o Loegr sy’n cael ei amau o hacio cyfrifiaduron yr FBI, wedi ennill apêl yn yr Uchel Lys rhag cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Dyfarnodd dau farnwr o blaid Lauri Love, 32, yn yr Uchel Lys ddydd Llun (Chwefror 5). Roedd y diffynnydd, sy’n byw gyda’i rieni yn Newmarket, Suffolk, yn bresennol yn y llys.

Yn ystod gwrandawiad amdano ym mis Tachwedd clywodd beirniaid bod ofnau y gallai Lauri Love, sy’n dioddef o gyflwr Asperger, ladd ei hun pe bai’n cael ei estraddodi.

“Mae’r apêl yma wedi’i chaniatáu ac mae’r apelydd wedi’i ryddhau o’r llys,” meddai’r beirniaid mewn dyfarniad ysgrifenedig.

Ond, maen nhw wedi pwysleisio y gallai Lauri Love gael ei erlyn yn Lloegr am y troseddau honedig.

Hacio seibr

Mae’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau am weld Lauri Love yn wynebu cyhuddiadau o hacio seibr. Mae cyfreithwyr wedi dweud  y gallai gael dedfryd o garchar am 99 mlynedd pe tai’n cael ei farnu’n euog.

Honnir ei fod wedi dwyn llawer o ddata oddi wrth asiantaethau yn yr Unol Daleithiau – gan gynnwys y fyddin, NASA a’r FBI – yn ystod cyfres o ymosodiadau rhwng 2012 a 2013.