Mae’r actor Hugh Grant a chwmni Mirror Group Newspapers (MGN), wedi dod i gytundeb mewn achos llys tros gyhuddiadau o hacio ffonau.

Roedd yr actor yn yr Uchel Lys i glywed ei gyfreithiwr yn rhoi manylion y setliad. Mae wedi derbyn iawndal chwe ffigwr, ac wedi rhoi’r arian i’r grŵp ymgyrchu Hacked Off.

Dywedodd cyfreithiwr yr actor, Anjlee Saigol, bod yr achos wedi’i gyflwyno mewn cysylltiad ag achosion honedig o hacio’i negeseuon ffôn.

Ychwanegodd Anjlee Saigol mai un o brif amcanion Hugh Grant “oedd ceisio datgelu’r gwir ehangach am ymchwiliadau MGN i’r gweithredoedd anghyfreithlon yma a’r hyn roedd y cwmni yn gwybod amdanyn nhw cyn cyfaddef i’r arferion yma ym mis Medi 2014.”

Roedd yr actor wedi derbyn iawndal yn 2012, yn dilyn achos tebyg â phapur News of The World.