Mae Gweinidog Trafnidiaeth yr Alban, Humza Yousaf wedi dweud ei fod yn “poeni” am ei ddiogelwch yn sgil bygythiadau hiliol yn ei erbyn.
Fe ddywedodd ei fod e bellach yn cario larwm ddiogelwch bersonol, a’i fod e wedi cymryd camau i wneud ei gartref a’i swyddfa’n fwy diogel. Dywedodd hefyd nad yw’n cynnal cyfarfodydd gydag etholwyr ar ei ben ei hun erbyn hyn.
Fe oedd y gweinidog cyntaf o leiafrif ethnig i gael ei benodi i Lywodraeth yr Alban.
Mae’n dweud bod y bygythiadau yn ei erbyn wedi gwaethygu ers y bleidlais tros Brexit ac ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Anas Sarwar
Humza Yousaf yw’r diweddaraf i ddweud ei fod e wedi dioddef hiliaeth, yn dilyn sylwadau tebyg gan Aelod Seneddol Llafur yr Alban, Anas Sarwar.
Dywedodd yntau ei fod e wedi cael ei sarhau’n hiliol yn ystod y ras am arweinyddiaeth Llafur yr Alban y llynedd, a hynny gan gynhgorydd etholedig.
Cymryd camau
Dywedodd Humza Yousaf wrth y Sunday Herald: “Dw i’n poeni am fy nheulu. Dw i wedi cael fy mriffio’n breifat gan yr heddlu ar sail adrodd am rai digwyddiadau.
“Fe ddywedon nhw ‘dyma ambell gam yr hoffech chi eu cymryd, efallai, i ddiogelu eich swyddfa etholaeth’ ac yn y blaen.
“Dydy e ddim yn lle ry’ch chi eisiau bod ynddo. Ond dw i wedi gorfod cymryd yr holl gamau hynny.
“Dw i’n cario larwm bersonol. Dw i jyst yn gwneud hynny fel arfer ac yn ei chario yn fy mhoced. Ddylwn i ddim bod yn gorfod ei chario.”
Ychwanegodd fod dadleuon “wedi’u polareiddio” wedi gwaethygu ei sefyllfa, a bod “Brexit yn enghraifft ofnadwy o hynny”.