Fe fydd contractwyr sydd wedi cael eu taro gan fethdaliad y cwmni Carillon yn gallu ceisio am fenthyciadau fel rhan o gynllun cymorth gwerth £100 miliwn gan y Llywodraeth.

Dywed yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark y bydd Banc Busnes Prydain yn helpu benthycwyr y stryd fawr i roi benthyciadau i fusnesau bach a chanolig sydd wedi colli arian a oedd yn ddyledus iddyn nhw gan Carillon.

Roedd gan y cwmni ddyledion anferth pan aeth i’r wal y mis diwethaf, gan beryglu miloedd o swyddi.

“Mae’r banciau wedi ymateb i fy nghais trwy gytuno i gefnogi busnesau ac unigolion sydd wedi cael eu taro,” meddai Greg Clark.

“Bydd y gwarant pellach hwn yn helpu’r busnesau hynny na fyddai’n gallu cynnig y sicrwydd arferol ar gyfer benthyciad.”

Mae Banc Busnes Prydain yn eiddo i’r Llywodraeth ond caiff ei reoli’n annibynnol ac mae’n arbenigo mewn cynnig cyllid i fusnesau llai.