Mae cancr y brostad yn cael ei gyfrif bellach yn un o’r tri math o gancr sy’n lladd y nifer fwyaf o bobol, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl yr elusen, Prostate Cancer UK, mae’r nifer o ddynion sy’n marw o ganlyniad i gancr y brostad yn fwy na’r nifer o ferched syn marw o gancr y fron.

Mae 11,819 o ddynion y flwyddyn yn marw o gancr y brostad, o gymharu â’r 11,442 o ferched sy’n marw o gancr y fron.

Mae ffigyrau’n dangos bod yna gwymp wedi bod ers 1999 yn nifer y merched sy’n marw o gancr y fron, a hynny yn ystod cyfnod lle mae ymchwil i’r cancr wedi cael mwy o fuddsoddiad a chynllun sgrinio wedi’i gyflwyno.

Ond yn ôl yr elusen, dyw’r cwymp hwn heb ei weld eto gyda chancr y brostad, er bod y dynion hynny sy’n dioddef o’r cancr heddiw yn fwy tebygol o fyw am ddeng mlynedd yn ychwanegol na’r rheiny a oedd yn dioddef o’r canser yn 1990.

Maen nhw felly yn dweud y dylai tua £120 miliwn gael ei fuddsoddi mewn ymchwil yn ystod yr wyth mlynedd nesaf, er mwyn ceisio atal y cynnydd erbyn y flwyddyn 2026.

Angen buddsoddiad

“Mae’r cyflwyniad o feddyginiaethau newydd, y cynllun sgrinio, a’r hwb i ymchwil wedi chwarae rhan bwysig wrth leihau nifer y merched sy’n marw o’r clefyd, heb os,” meddai Angela Culhane, Prif Weithredwr Prostrate Cancer UK.

“Ond gyda hanner y buddsoddiad a hanner yr ymchwil, nid yw’n syndod bod unrhyw welliant i gancr y brostad yn araf yn dod.

“Serch hynny, y newyddion da yw bod nifer o ddatblygiadau yn gallu cael eu cyflwyno i gancr y brostad, a gyda’r arian cywir, fe allwn ni leihau’r nifer o farwolaeth yn ystod y degawd nesaf yn ddramatig.”