Mae Downing Street wedi gwadu honiadau ar y cyfryngau yn China bod Theresa May wedi “osgoi” trafod hawliau dynol yn ystod ei hymweliad tridiau a’r wlad.

Roedd The Global Times wedi llongyfarch Theresa May am osgoi pwysau “radical” yn y Deyrnas Unedig i fynegi pryderon am y driniaeth a gafodd protestwyr yn Hong Kong, er mwyn canolbwyntio ar wella cysylltiadau masnach a buddsoddiad gyda China.

Ond mae ffynhonnell yn Rhif 10 wedi mynnu bod Theresa May wedi codi’r mater am brotestwyr Hong Kong a hawliau dynol yn ystod ei thrafodaethau gyda’r Arlywydd Xi Jinping a’r prif weinidog Li Keqiang. Cafodd mwy na 100 o brotestwyr eu harestio yn dilyn y digwyddiad yn Hong Kong.

Dywedodd Theresa May bod ei hymweliad wedi sicrhau cytundebau gwerth £9 biliwn a bod ei hymweliad a China yn “agor pennod newydd” yn y berthynas rhwng y ddwy wlad.