Mae’r heddlu wedi enwi carcharor a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng ngharchar Wormwood Scrubs, yng ngorllewin Llundain.

Cafwyd hyd i Salah Khader, 25, gyda marciau cyllell ar ei gorff brynhawn dydd Mercher, roedd wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae pedwar carcharor arall – dau yn 21 oed, un yn 20 oed a’r llall yn 23 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.

Dywed yr heddlu fod teulu Salah Khader wedi cael gwybod.