Fe fyddai Nicola Sturgeon yn aros yn Brif Weinidog yr Alban pe bai etholiad yn cael ei gynnal heddiw, yn ôl arolwg barn newydd.

Ac yn San Steffan, mae’r pôl yn awgrymu y byddai’r Ceidwadwyr a Llafur yn colli seddi wrth i blaid genedlaethol yr SNP ennill rhywfaint o dir yn ôl.

Y Ceidwadwyr yw’r collwyr mwya’ yn yr arolwg o 1,000 o bobo ar ran papur y Daily Record, gan golli cefnogaeth yn Llundain a Chaeredin.

Clec i Davidson?

Yr awgrym yw y byddai Llafur yn dal eu tir mewn seddi unigol yn Senedd Holyrood ac yn ennill rhywfaint o dir yn y rhestrau ond mae’r gefnogaeth i’r SNP wedi codi o 2% yn yn yr etholaethau.

Yn achos San Steffan, mae’r pôl yn awgrymu y byddai’r SNP yn ennill pedair sedd oddi ar Lafur a phump oddi ar y Ceidwadwyr

Fe allai’r darogan gael ei weld yn ergyd i arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson, sy’n cael ei chrybwyll gan rai yn arweinydd posib ryw dro i Geidwadwyr gwledydd Prydain – hynny oherwydd ei llwyddiant yn adfer y blaid yn yr Alban.