Ym Mrwsel, mae gwledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cytuno ar ganllawiau ar gyfer y cyfnod trosglwyddo wedi Brexit.

Mewn cyfarfod byr, roedd y 27 o aelodau sy’n weddill o’r UE wedi cymeradwyo canllawiau newydd ar gyfer prif drafodwr Brexit, Michel Barnier, cyn y trafodaethau a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i Brydain gadw at reolau’r UE yn llawn yn ystod y cyfnod trosglwyddo wedi Brexit ac ni fydd yn cael llais mewn sefydliadau’r UE sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau.

“Annerbyniol”

Cyn i fandad Michel Barnier gael ei gyhoeddi, dywedodd Downing Street bod “gwahaniaethau barn” rhwng Llundain a Brwsel yn parhau ynglŷn â’r cyfnod trosglwyddo. Mae disgwyl i’r cyfnod hwnnw bara am tua dwy flynedd wedi Brexit – y dyddiad swyddogol ar gyfer hynny yw mis Mawrth 2019.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi wynebu beirniadaeth gynyddol gan Geidwadwyr sydd o blaid gadael yr UE, sydd wedi’i chyhuddo o baratoi ar gyfer Brexit “mewn enw yn unig.”

A dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Ymadael a’r UE, Hilary Benn, ei bod yn “anhygoel ac yn annerbyniol” bod y Llywodraeth hyd yn hyn wedi methu a datgan beth yn union mae’n gobeithio ei gael o’r trafodaethau Brexit.