Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaethau tri llanc mewn gwrthdrawiad yng ngorllewin Llundain nos Wener yn chwilio am ail ddyn.

Mae dyn 28 oed eisoes wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ar ôl i Audi du gael ei yrru ar balmant yn Hayes, gan daro i mewn i’r tri ar gyflymdra uchel a’u lladd.

Mae’r tri wedi’u henwi’n lleol erbyn hyn – Harry Rice, George Wilkinson a Josh Kennedy – ac mae lle i gredu eu bod nhw ar eu ffordd i barti pen-blwydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Roedden nhw i gyd yn 16 neu’n 17 oed.

Mae’r dyn 28 oed sydd wedi’i arestio’n cael ei holi gan yr heddlu yng ngogledd Llundain, ac maen nhw’n parhau i chwilio am ail ddyn oedd yn teithio yn y car ond oedd wedi ffoi yn dilyn y gwrthdrawiad. Dydy hi ddim yn glir a oedd rhagor o bobol yn y car.

Ffrwgwd

Dywedodd llygad-dystion fod criw o lanciau wedi bod yn ymladd ar bwys garej Esso cyn y gwrthdrawiad am oddeutu 8.40pm nos Wener.

Fe fu’r heddlu’n edrych ar luniau camerâu cylch-cyfyng, ac mae dyn 18 oed yn dweud ei fod e wedi gweld dau lanc yn ymosod ar ddyn Asiaidd meddw cyn y gwrthdrawiad gan ei “gicio a’i daro”.

Dywedodd y llanciau fod y dyn wedi ymosod ar eu ffrindiau.